Yn dilyn ymddiswyddiad diweddar y Cynghorydd Tref Kevin Mitchell, mae swydd wag achlysurol wedi’i datgan yn swydd Cynghorydd Tref dros Ward y Dwyrain.

Mae hwn yn gyfle i alw am etholiad i’r swydd wag o gynghorydd tref.

Ychwanega Clerc y Dref, Ed Humphreys, ‘Mae eich cyngor tref, fel rhan o ddemocratiaeth gynrychioliadol, yn cynnwys y bobl y mae’r gymuned yn eu hethol i wneud penderfyniadau’n lleol, ar ei ran ac er ei lles gorau. Os oes gennych chi syniadau i helpu i wneud y gymuned hon yn lle gwell i fyw, dysgu, gweithio neu ymweld, ac yn teimlo’n gallu perswadio eraill o’u budd dros eu cost, dyma’ch cyfle chi. Fodd bynnag, mae’n bwysig cydnabod bod y cyfle hwn yn ymestyn y tu hwnt i alw am etholiad yn unig; mae’n wahoddiad i ystyried sefyll fel cynghorydd tref eich hun.

Mae’r rôl yn cynnwys gweithio’n agos gydag eraill y tu mewn a’r tu allan i’r cyngor, ymgysylltu ag aelodau’r gymuned, a gwneud penderfyniadau ar y cyd ar ôl trafodaeth mewn cyfarfodydd cyngor neu bwyllgor. Mae’n cymryd amser, ymdrech a chost. Mae’n gyfle i gyfrannu’n weithredol at les eich tref, i gynrychioli’r lleisiau amrywiol o fewn eich cymuned, ac i weithio ar y cyd tuag at ddyfodol gwell i bawb.”

Cynhelir etholiad os rhoddir cais ysgrifenedig am etholiad i’r Dirprwy Swyddog Canlyniadau gan DDEG etholwr ar gyfer yr ardal etholiadol o fewn 14 diwrnod gwaith i gyhoeddi’r datganiad.

Dylid anfon cais drwy lythyr / post at:

Dirprwy Swyddog Canlyniadau

Cyngor Sir Powys
Neuadd y Sir
Llandrindod Wells
Powys LD1 5LG

Hoffai Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaiarn fynegi ei ddiolch i Kevin am fod yn barod i sefyll am etholiad, ac am dderbyn swydd etholedig ym mis Mawrth eleni. Daw cyfraniadau at les cyffredin y dref mewn pob math o ffyrdd, felly rydym yn disgwyl y bydd cyfleoedd eraill i’ch cyngor tref, cynghorwyr a Kevin gydweithio.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Gynghorydd Tref, gweler einBecyn Gwybodaeth Bod yn Gynghorydd Tref.