Cyngor Tref Y Drenewydd a Llanllwchaiarn – Gwahoddiad Tendr ar gyfer Prosiect Cadwraeth a Mynediad Twmpath Y Drenewydd

Hysbysrwydd

Closing Date Job Type Location Salary
06/11/2025 Contract
Twmpath Neuadd y Dref

1. Cefndir

Mae Twmpath Y Drenewydd yn Heneb Gofrestredig o arwyddocâd cenedlaethol wedi’i leoli yn Y Drenewydd, Powys. Mae Cyngor y Dref, gan weithio mewn partneriaeth â Heneb, Cadw, a rhanddeiliaid eraill, wedi datblygu cynllun rheoli a chadwraeth i ddiogelu’r heneb tra’n gwella mynediad a dehongliad y cyhoedd. Ni fwriedir i’r safle gael ei ffensio i ffwrdd, ac ni fydd coed yn cael eu cwympo’n ddiangen; mae ei werth ecolegol a bywyd gwyllt yn ganolog i ddyluniad y prosiect.

Yn dilyn cloddiadau cymunedol yn 2022 – 2025, mae’r Cyngor bellach yn gwahodd tendrau gan gontractwyr cymwys i gyflawni’r gwaith a amlinellir isod.

2. Cwmpas y Gwaith

Mae’r prosiect yn cynnwys y prif gydrannau canlynol

Cydran 2: Gwaith Coedwigaeth

  • Cael gwared yn ofalus ar goed bach, ymledol a thorri’n ôl ar y llwyni i wella gwelededd y twmpath.
  • Sicrhau bod coed mwy yn aros i warchod gwerth ecolegol a thirweddol.
  • Dylai pob gwaith gael ei arwain gan arolwg coedwigaeth ac asesiad ecolegol.

Cydran 3: Gwelliannau Mynediad Rheoledig

  • Dylunio a gosod mannau mynediad a rhwystrau cynnil i reoli erydiad a defnydd anawdurdodedig (e.e., gan feiciau oddi ar y ffordd).
  • Rhaid i lwybrau aros yn hygyrch i’r cyhoedd, yn gydnaws â’r dirwedd, ac yn cydymffurfio â chanllawiau treftadaeth.

Cydran 4: Llwybr Mynediad Newydd

  • Adeiladu llwybr mynediad rheoledig newydd i gopa’r twmpath (e.e., grisiau/llwybr terasog), wedi’i ddylunio i leihau erydiad.
  • Defnyddio cynseiliau fel Castell Dinas Bran (Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir Ddinbych).
  • Rhaid i ddeunyddiau a dulliau adeiladu fod yn effaith isel, yn wydn, ac yn sensitif i gadwraeth.