Grantiau Digwyddiadau Twristiaeth

Mae’r Cyngor Tref yn cydnabod bod digwyddiadau blynyddol rheolaidd yn y Drenewydd yn cael croeso da gyda’r gymuned, ond hefyd yn denu ymwelwyr o’r tu allan i’r ardal ac mae ganddynt swyddogaeth dwristiaeth ac economaidd werthfawr. Mae’r Cyngor yn credu y bydd cefnogaeth i ddigwyddiad sydd naill ai’n cael ei sefydlu, ei ailsefydlu, neu sydd angen cymorth ariannol parhaus, yn sicrhau, ac yn caniatáu i’r digwyddiadau hyn ddigwydd yn flynyddol.

Er mwyn cyflawni hyn, bydd grantiau blynyddol o hyd at £2000 tuag at gynnal digwyddiad ar gael bob blwyddyn. Bwriad y swm hwn yw cynorthwyo’r trefnwyr digwyddiadau i hwyluso gwariant sylweddol a helpu i sicrhau calendr blynyddol o ddigwyddiadau yn y Drenewydd.

Mae’r grantiau ar gael:

  • i grwpiau neu sefydliadau:
  • ar gyfer digwyddiadau gyda 100+ o fynychwyr
  • ar gyfer digwyddiadau blynyddol h.y. rhaid i’r digwyddiad fod o leiaf yn ei2il flwyddyn
  • ar gyfer digwyddiadau sy’n denu ymwelwyr o’r tu allan i’r dref

Mae un rownd o geisiadau bob blwyddyn. Y dyddiad cau yw 31 Rhagfyr, ar gyfer digwyddiadau a gynhelir yn y flwyddyn ganlynol.

Mae Nodiadau Canllaw llawn a ffurflen gais ar gael yma.