Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi carreg filltir bwysig wrth gyflawni eich Cynllun Lle “Ein Tref, Ein Cynllun” – y dyfarniad llwyddiannus, drwy’r cyngor sir, o £83,000 o Gronfa Effaith Balchder yn y Lle (PIPIF).
Mae’r cyllid hwn yn ein galluogi i symud ymlaen gyda set o brosiectau a ddewiswyd yn ofalus sy’n adlewyrchu blaenoriaethau eich cymuned ac yn anelu at wella profiad bob dydd eich tref.
Beth fydd y Cyllid yn ei Gyflawni?
Mae’r prosiectau a ariennir drwy’r dyfarniad hwn yn canolbwyntio ar hygyrchedd, ymddangosiad a chynhwysiant – gan helpu i greu lle y mae pobl yn teimlo’n falch ohono.
Cefnogi pobl ifanc
Bydd lloches newydd i bobl ifanc ac ardal eistedd (£30,000) yn darparu lle diogel, croesawgar i bobl ifanc gyfarfod a threulio amser gyda’i gilydd.
Gwella profiad yr ymwelwyr
Gyda £20,000 wedi’i ddyrannu i fyrddau dehongli twristiaid ac arwyddion, byddwn yn ei gwneud hi’n haws i ymwelwyr archwilio a gwerthfawrogi’r hyn sydd gan y dref i’w gynnig, o hanes i uchafbwyntiau lleol.
Gwella amgylchedd canol y dref
Bydd buddsoddiad mewn planwyr (£20,000) yn cyflwyno mwy o wyrddni ac yn gwella apêl weledol mannau allweddol, gan gyfrannu at ganol tref mwy deniadol a phleserus.
Creu ymdeimlad cryf o gyrraedd
Bydd baneri stryd newydd (£13,000) ym mhob un o’r pum prif bwynt mynediad ffordd yn darparu croeso cynnes ac yn atgyfnerthu hunaniaeth unigryw’r dref.
Cyflawniad Cyfunol
Mae sicrhau’r swm cyllid llawn yn adlewyrchu cryfder y weledigaeth a amlinellwyd yng Nghynllun Lle’r gymuned ei hun a’r ymrwymiad i gyflawni gwelliannau ystyrlon, felly diolch i bawb a gyfrannodd ato.
Mae hyn yn fwy na newid corfforol yn unig – mae’n ymwneud â meithrin balchder dinesig, cefnogi llesiant cymunedol, a gwneud y dref yn lle y mae pobl eisiau bod.
